Amodau a Thelerau
Cyffredinol
Eiddo Safer Neath Port Talbot Community Safety Partnership yw
Gwefan Ymweld Safer NPT ac mae'n cael ei chynnal er mwyn i chi ei
defnyddio.
Mae cyrchu a defnyddio gwefan Safer NPT sy'n cynnwys yr amodau
a'r telerau hyn yn golygu eich bod chi (y defnyddiwr) yn derbyn yr
amodau a'r telerau hyn, sy'n dod i rym o'r dyddiad cyntaf y byddwch
yn defnyddio'r wefan hon. Rydym yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau
a'r telerau hyn ar unrhyw adeg heb rybudd. Os cânt eu diwygio, bydd
yr amodau a'r telerau diwygiedig yn cael eu harddangos ar y
tudalennau hyn a bydd parhau i ddefnyddio gwefan Safer NPT ar ôl
diwygio o'r fath yn golygu eich bod yn derbyn yr Amodau a'r Telerau
diwygiedig.
Dolenni i wefannau eraill
Er cyfleuster i chi, mae Safer Neath Port Talbot Community
Safety Partnership yn ymdrechu i sicrhau bod y dolenni hyperdestun
o'r wefan hon i wefannau eraill a weithredir gan gyrff eraill yn
berthnasol ac yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol.
Os byddwch yn cyrchu un o'r gwefannau cysylltiedig hyn, byddwch
yn gadael gwefan Safer NPT ac yn gwneud hynny ar eich menter eich
hun: Chi fydd yn gorfod cymryd y camau angenrheidiol i'ch amddiffyn
eich hun rhag unrhyw firysau a/neu elfennau dinistriol/llygrol
eraill.
Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw gynnwys yn y gwefannau
cysylltiedig hyn na dibynadwyedd unrhyw wybodaeth a ddarperir
ynddynt, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl (naill ai
gyfreithiol neu fel arall) am unrhyw golled neu niwed gan gynnwys,
heb gyfyngiad, golledion neu niweidiau anuniongyrchol neu
ganlyniadol, sy'n dilyn o ddefnyddio, neu mewn cysylltiad â
defnyddio unrhyw un o'r gwefannau cysylltiedig hyn.
Ni ddylid ystyried y ffaith i ni gynnwys hypergysylltiadau â
gwefannau eraill mewn unrhyw ffordd ein bod yn cymeradwyo'r
gwefannau hyn.
Diogelu rhag Firysau
Rydym yn gwneud pob ymdrech i gadarnhau a phrofi deunydd ar bob
cam o'r cynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi ddefnyddio rhaglen
gwrthfirysau ar yr holl ddeunydd y byddwch yn ei lawrlwytho o'r
Rhyngrwyd. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled,
amhariad na niwed i'ch data na'ch system gyfrifiadurol a allai
ddigwydd pan fyddwch yn defnyddio deunydd sy'n deillio o'r wefan
hon.
Hawlfraint
Mae'r deunyddiau ar y wefan hon, gan gynnwys, heb gyfyngiad,
unrhyw destun, logo, eiconau, ffotograffau ac arlunwaith arall dan
hawlfraint Safer Neath Port Talbot Community Safety Partnership os
na nodir yn wahanol. Gellir defnyddio'r deunydd hawlfraint hwn heb
ein caniatâd ar yr amod nad yw'n cael ei atgynhyrchu, na'i addasu
na'i ddefnyddio at ddibenion elw ariannol. Ni ellir defnyddio'r
deunydd hawlfraint hwn yn fasnachol heb ein caniatâd ysgrifenedig
penodol.
Nid yw'r caniatâd i ddefnyddio deunyddiau hawlfraint ar y wefan
hon yn cwmpasu unrhyw ddeunyddiau a nodir eu bod yn hawlfraint
trydydd parti: er mwyn defnyddio deunyddiau hawlfraint trydydd
parti, mae'n rhaid cael caniatâd y trydydd parti hwnnw.
Ansawdd y Data
Mae Safer Neath Port Talbot Community Safety Partnership yn
ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth o safon ar y wefan hon a gwnaed
pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth hon yn gywir ac yn gyfredol.
Os ydych yn meddwl bod gwybodaeth anghywir neu hen ar y wefan hon,
cysylltwch â'r Tîm Community Safety ar e-bost yn communitysafety@npt.gov.uk
Awdurdodaeth Gyfreithiol
Caiff yr Amodau a'r Telerau hyn eu llywodraethu a'u dehongli yn
unol â deddfau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi o
dan yr Amodau a'r Telerau hyn yn destun awdurdodaeth llysoedd Cymru
a Lloegr yn unig.